Tuesday 5 October 2010

Swn 2010


Dyma fy ffefryn o'r ychydig bosteri nesi ddylunio yn ddiweddar ar gyfer gwyl Swn Caerdydd, 2010. Noson i rai rhwng 14 ac 18 yn unig ydi hon; siwr o fod yn wyllt iawn felly cadwch draw oedolion ac unrhyw un efo alergedd at offerynau pres. Mae dros 100 o fandiau eraill yn chwarae felly cymerwch olwg yn fama: www.swnfest.com


This is my favourite poster of the few that I recently designed for Cardiff's Swn Festival, 2010. It's a night for those aged between 14 and 18 only. It should be a wild night; keep away adults and anyone whose allergic to brass instruments. There are over a hundred other bands playing the festival so check here: www.swnfest.com

Wrap Paper



Wythnos dwytha cefais yr anrhydedd o gael fy ngwaith wedi ei gyhoeddi mewn cylchgrawn dylunio newydd sbon o'r enw Wrap. Mae'r cylchgrawn yn gasgliad o bapurau lapio gwreiddiol a cyfweliadau efo'r dylunwyr. Mae nhw wedi printio fy mhatrwm 'Cwmwlyncwyr' a wedi fy ngwneud yn ddylunydd 'Feature' y rhifyn cyntaf. Am fwy o wybodaeth cerwch i fan hyn: www.thewrappaper.com


Last week I was given the honour of having my work featured in the brand new design and illustration magazine Wrap. The magazine is a collection of original wrapping papers and interviews with the contributing designers. They have printed my 'Cwmwlyncwyr' (Cloud Swallowers) design and made me the the first issue Featured designer. For more info on Wrap go here: www.thewrappaper.com

Monday 4 October 2010

Album Y Niwl



Dyma olwg sydyn ar y clawr dwi wedi dylunio ar gyfer album cyntaf y grwp 'syrff' offerynol Y Niwl. Mae'r album yn cael ei ryddhau yn swyddogol ar y 6ed o Ragfyr.


Here is a quick look (well actually, fell free to stare at it all day long if that's your kind of thing..) at the artwork I created for the debut album by surf instrumentalists Y Niwl. The album is officially released on the 6th of December. And it's ace!

Saturday 19 June 2010

Beic Marw - Dead Bicycle (4)

Treborth

\ I /




Neshi brintio'r cardiau yma efo teclyn print Gocco. Mae'r cardyn yn stock trwchus wedi ei ailgylchu sydd yn golygu bod yr inc yn glynnu yn amherffaith. Doedd y broses ddim yn un esmwyth ond dwi'n bles efo'r canlyniadau. Holwch fi am un os da chi isho un..

I printed these cards with a print Gocco. The stock is a thick recycled card which means the inc has dispersed unevenly. The process did not go smoothly but it was educational and I'm pleased with the results. Ask me for one if you want one..

Sunday 2 May 2010

Hey!



Dwi heb roid llawer o waith newydd yma yn ddiweddar, felly dyma damad i aros pryd. Crysau T ar gyfer Y Niwl yn disgleirio yn haul y gwanwyn. Dwi wrthi'n gorffen y gwaith dylunio ar gyfer album cyntaf Y Niwl ar y funud, mwy o fanylion i ddod am hwna. Bydd yna grysau T newydd yn cyrraedd yr un pryd a'r album hefyd.


It's been a bit too quiet around here for a while, so here are a couple of photo's to get things up again. Two T-shirts I designed for Y Niwl. I'm just finishing the artwork for their debut album so I should have some news about that very soon and hopefully some new T-shirts to go with it. Brilliant!

T!


Diolch Cai!

Wednesday 21 April 2010

\ I /......\ I /......\ I /



Bob hyn a hyn dwi'n cal yr awydd i brintio llwyth o gardia busnes, yn benaf achos dwi methu cofio fy rhif ffon... Tro yma dwi am brintio rhai efo fy mheiriant gocco a defnyddio'r ddelwedd yma o aderyn yn gyrru pensal hud. Reu!


Every now and again i feel the need to print up a small mound of business cards, mainly because I can't remember my own phone number...
This time I'm going to try out my print gocco and have them feature this picture of a bird driving a pencil. Safe!

Ffranconstein



Dyma rwbath dwi di bod yn chwara ogwmpas efo yn ddiweddar fel rhan o fy nghyfraniad i brosiect diddorol, da a gwallgo Geraint Ffrancon sef Ffranconstein. Cerwch draw i wefan Geraint drwy glicio'n fama er mwyn gweld a clywed be mae o fyny i; gormod o bethau i fi allu dechrau disgrifio yn fama.


The image above is something I've been playing about with recently as part of an ongoing collaboration with electronic musician and sound artist Geraint Ffrancon. See, hear and get involved with his Ffranconstein project by clicking here.