Thursday 29 September 2011

sengl, taith a crysau-T - single, tour and T's



Dyma glawr y sengl diweddaraf i mi ddylunio i'r Niwl. Mae ar gael i'w lawrlwytho o yniwl.com ac mi fydd y vinyl 7" ar gael mewn gigs. Mae'r Niwl yn teithio eto efo Gruff Rhys, gan gychwyn taith o Brydain dydd Sul yma (2ail o Hydref) yn Llandudno. Mi fyddaf yn edrych ar ol y stondin recordiau a crysau-T ar y daith, felly dowch draw am sgwrs os ydych yn mynychu un o'r nosweithiau. Mi fydd y crysau-T yma ar gael ymysg eraill...

Here is the cover I designed for the latest single by Y Niwl. Available to download from yniwl.com and on 7" vinyl from gigs. The band will be touring again with Gruff Rhys, begining a tour of the UK in Llandudno this Sunday (2nd October). I will be manning the merchandise stall during the tour, so be sure to come over for a chat if you're at one of the nights. Here are a couple of the T-shirts that will be available to buy...




Wednesday 28 September 2011

Surreal Birdwatching


Ar ol esgeuluso y blog am fisoedd lawer, roedd yn syndod braf i mi ganfod fod rhywun wedi gadael sylw yma tra oeddwn i ffwrdd. Diolch i Ray am ei eiriau clen ac am hysbysebu ei flogiau rhyfeddol: Wonderful Welsh; blog am ddysgu cymraeg, fedrai ddychmygu i fod yn hynod ddefnyddiol i ddysgwyr eraill ac yn hynod ddiddorol i siaradwyr cymraeg gan ei fod yn rhoid perspective gwahanol arni ac yn gofyn lot o gwestiynau diddorol. 'mostlybirdingwithray', blog gwylio adar swreal, gwerth ei ddilyn os ydych yn mwynhau'r hobi poblogaidd yma.

Yn ogystal, hoffwn ddiolch i Ray am dynnu fy sylw i'r faith fy mod wedi llenwi fy mlog efo lluniau o adar bach del, lliwiau pastel a ceffylau. Mewn ymgais wan i ymddangos chydig mwy gwrol, dwi'n postio llun o ddynes boeth yn mwynhau dau beint o gwrw.

Thank you Ray for being the second person to comment on this blog (any comments are welcome and will be appreciated.) Ray left some very kind words and introduced me to a couple of his ace blogs. Wonderful Welsh concerns the challenge of learning the welsh language, I imagine it's a great resource for fellow welsh learners but for me it's an interesting perspective on a language that I speak and write fluently but quite informally and without much thought. Mostlybirdingwithray is a surreal birdwatching blog; don't think I need to say anymore about that, except that it's well good.

I must also thank Ray for bringing to my attention the fact that I have filled this blog with pictures of cute little birds, pastel colours and pony's. In a weak attempt to appear more manly I post a picture of a hot woman enjoying two pints of beer.




Thursday 15 September 2011

Atgof O'r Haf


Dwi wedi bod yn defnyddio'r babell yma ers fy mhlentyndod, mae o wedi gweld dyddiau gwell ond rhywsut yn dal i fynd. Chydig o hafau yn ol wrth i mi gysgu yn braf yn y babell daeth dihiryn neu ddihirod ac arlunio llun mawr o bidlan ar ei ochr. Ni lwyddais i gael gwared o'r gampwaith anffodus, felly haf dwytha peintiais wep aderyn drosto. Haf yma fe dynais y lluniau hyn...

I have been using this tent since I was a youngster, it's seen better days but is somehow still going strong. A few summers ago as I slept soundly within, some villain or other drew a giant penis on the side. I was unable to remove the offensive and indelible masterpiece, so last summer I painted a bird's head over it. This summer I took these pictures...