Saturday 19 December 2009

Beic Marw - Dead Bicycle (3)



Ffordd Y Mynydd, Rachub.

Mmmm Vinyl!



Dyma ni, dyma glawr EP/Sengl Y Niwl. Gyda lwc a gwynt teg o'r dwyrain mi fydd y vinyl 7" yn y siopau ar ol y Nadolig. Bydd y manylion ar y safle Ffessbwc newydd, fama! Gwyliwch hefyd am y crysau-T ffwncigedig!

Here we are, here's the cover for Y Niwl's EP/Single. With good luck and a fair easterly wind the 7 inches of black vinyl and their shiny cardboard jackets should be in the shops just after christmas. Keep an eye on the new Facebook pages for all the details and some very nice T-shirts, here!

Thursday 12 November 2009

Carrot Update



Dyma beth ddigwyddodd i'r hada moron nes i blanu dipyn yn ol, ma nhw'n fach iawn (prin werth eu bwyta) ond yn goch llachar ac yn flasus. Rwbath tebyg i'r petha yn yr hysbyseb Siapaneaidd yma...

Here's what happened to my carrot seeds. They're really small (hardly worth eating) but bright red and pretty tasty, a bit like the things in this clip...



This is how every single advert should be made. You know it doesn't make sense, but that's not the point is it?

Sunday 1 November 2009

Y Niwl @ Gwdihw



Noson hyfryd, band hyfryd, fideo hyfryd, aaaaaaah ma bob dim mor hyfryd dwi'n caru chi gyd! ayyb

One of the many highlights of the Cardiff Swn Festival weekend; Y Niwl rocking out on (Dim Swn) sunday. Feel the love! Like a small tempest in a tent! Top video by Dyl G.

Monday 5 October 2009

New Posters - Not to be Mist!!!





Mae'r Niwl yn dod - The Fog is coming

...down from the mountain ...up from the swamp ...in from the sea...

Wednesday 23 September 2009

Surf Ahoy!


Dwi di bod yn brysur yn ddiweddar yn creu logo a gwaith celf i fy hoff grwp syrff newydd; Y Niwl. Ma na EP ar y ffordd ond yn y cyfamser ma nhw digwydd bod yn wych yn fyw... myspace.com/yniwl


I've been working on a logo and artwork for my new favourite surf group; Y Niwl (the mist/fog). See them live if you can, you won't be let down. There's a vinyl EP on the way too...

Thursday 11 June 2009

King Cannibal



Dyma flyer arall i'r Ulverston Anferth.  Dylunio hyfryd unwaith eto gan Hugh Gummett.

Another great night in Ulverston, another flyer by myself and Hugh Gummett and another fork related popsicle death goes unnoticed.  A sign of the times?

Flyer



Dyma boster fydd o ddiddordeb i unrhyw un yng nghyffiniau Ulverston sy'n hoff o gerddoriaeth electronic tywyll.  Unrhyw un?  Fi nath y llun a fy nghyfaill talentog Hugh Gummett nath y dylunio.


I illustrated this flyer recently, my talented acquaintance Hugh Gummett designed it.  It's just a shame I don't live near Ulverston, it sounds like a good night.  

Thursday 21 May 2009

Thursday 14 May 2009

Baby Carrots!


Dwi di bod efo'r paced yma o hada moron ers dros dwy flynedd, o'r diwedd dwi di ffindio bath babi efo twll yn y gwaelod i blannu nhw mewn.

Wednesday 13 May 2009

Peint?



Ma'r dirwasgiad yn i gneud hi'n anodd i fforddio cwrw, felly cyn i fi roid fyny'r ddiod feddwol yn gyfan gwbl dwi am roid tro ar fragu fo fy hun.  Dwi'n meddwl am y marchnata oflaen llaw, rhag ofn idda fo droi allan i fod yn boblogaidd (pwy a wyr?).  



The recession has made it hard to afford beer.  I have resolved to brew my own or turn to the straight edge.  I have high hopes for the new venture.  I'm planning a marketing campaign in case it turns out to be popular.  It will be called 'Piso dryw'.  That's welsh for wren's piss.

Tuesday 14 April 2009

Wednesday 8 April 2009

Peiriant Pleser - Pleasure Machine



Found this book...


Sbiwch ar y llyfr yma!  Diddorol de? Dwi'n ama bod fy nhaid wedi pigo fo fyny pan aeth i chwilio am y Yeti yn Nepal.  Ma'r clawr yn hyfryd a dwi mewn cariad efo llygad ddiog y ferch.


This is a Nepali English Teacher.  My grandfather picked it up in Nepal whilst looking for the yeti.  I'm in love with the girl's lazy left eye.

Thursday 19 March 2009

Llun Sgwar / Square Picture




Dyma arbrawf efo sgwaria, triongls a cylchoedd sydd wedi dod fel sgileffaith gneud chydig o gelf i'r band Eitha Tal Ffranco.


Above is a side-effect of doing some artwork for the band Eitha Tal Ffranco.

Aaron Ghost-Ramses


Ma fy nghydweithrediad efo Wes White ar gael i'r byd i gyd i weld ar wefan Two Heads. Rwan!
Sgrifenodd Wes stori fer wych-wallgo am feics pedal a'r dylanwad ma pobl hollol ddiarth yn gallu cal ar fywyd rhywun.  Nes i neud llunia o feics i gyd-fynd.  Da ni'n bwriadu gneud chydig o brints...
Yn ogystal, dwi'n bwriadu cadw'r weithrediad yn fyw efo cwpwl o bosteri mawr fydd yn ymddangos rwla yn Manceinion mis nesa. 


My collaboration with Wes White for his Two Heads project can now be viewed on the Two Heads website.  During February he wrote a short story "inspired by bicycles and by the effects that people unknown to us can have on our lives."  I drew some bicycles.  We plan on making some prints so check back if you'd like one.
It doesn't end there, I'm currently working on a big poster (or two) inspired by Wes' story. These will be appearing somewhere in Manchester next month.



Tuesday 24 February 2009

Cydbwysedd


Dyma'r Diwedd




Dyma glawr sengl newydd Alun Tan Lan; Dyma'r Diwedd.  Fydd y gan a'i 'b-side' gwych ar gael iw lawrlwytho am ddim!  Ddim yn siwr o lle eto ond ma'r caneuon fyny ar myspace Alun am y tro.

Here's the artwork for Alun Tan Lan's new single Dyma'r Diwedd.  The song and a great b-side will be available to download for free; check out Alun's myspace to hear them.

Thursday 22 January 2009

Caneuon Anifaelaidd - old mix tape


Nesi ddod ar draws y tap yma yn ddiweddar, rwbath nesi cwpwl o flynyddoedd yn ol pan oedd genai ddim byd gwell i neud.  Ma pob can arna fo efo ryw fath o gysylltiad i ryw fath o anifael.  Dwi'n gweld y clawr reit ddoniol; sgwni alla chi ddyfalu o pa album gan fand americanaidd 'llithrig' dwi wedi dwyn y ddau gymeriad?

This is a mixtape I made a couple of years ago when I obviously had more free time.  Every song has some connection to some type of animal.  Radical!  Can you guess from whose album cover I stole the two wandering characters from?

Highlights include:
Donkey Island, Rat Salad, Best Dressed Chicken in Town, Noise Goes the Weasel, Defaid William Morgan...

Monday 12 January 2009

Two Heads


Rwbath i edrych ymlaen i yn ystod mis Chwefror; a gwedill y flwyddyn erbyn meddwl.  Mi fyddai'n cyd weithio a Wes White ar ei brosiect Two heads.  Dros y deuddeg mis nesaf bydd Wes yn cydweithio efo artistiaid a cerddorion o wahanol ddisgyblaethau.  Dilynwch y linc am fwy o wybodaeth.

During February I will be collaborating with Wes White as part of his two heads project.  He will be collaborating with someone new every month of this year.  Check this link for more information.

Carlwm - Swn - Stoat


Dyma lun rhagorol o un o'r cymeriadau a ymddangosodd yng Nghaerdydd yn ystod Swn.

Here is a superior shot of one of the characters that appeared around Cardiff during Swn.  It's a blue, trumpet hugging stoat, just in case you were wondering.  

Gwyl Swn Festival


Nol yn Tachwedd blwyddyn dwytha ges i'r fraint o fynd lawr i Caerdydd i arddangos chydig o waith celf gwmpas y ddinas fel rhan o wyl Swn.  Dyma fi ar raglen bandit yn esbonio'r gwaith efo fy sgiliau arwyddo.

Back in November of last year I went down to the excellent Swn Festival in Cardiff to put up some artwork around the city.  Here I am explaining the work using my signing skills on welsh music program Bandit.

Nadolig/Christmas


Dyma gardyn nadolig ar gyfer 2008.  'Screen-print' gwyrdd a brwsh ac inc du.  

Here's a christmas card for 2008.  Green screen-print and black brush and ink. Edition of 35.